Cronfa Mantais Gymunedol

Mae cronfa mantais gymunedol Fferm Wynt Mynydd y Betws ar gael i ddarparu grantiau ar gyfer prosiectau sy’n agos i safle’r fferm wynt am y pum mlynedd ar hugain cyntaf o oes y prosiect, a oedd yn cynnwys blaenswm o £1,000,000 a ddarparwyd ar gyfer y flwyddyn gyntaf. Rhennir y gronfa rhwng dwy ardal, sef ardaloedd Cyngor Sir Gaerfyrddin a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

Yn Sir Gaerfyrddin, y wardiau cymwys yw: Penygroes, Llandybie, Pontaman, Rhydaman, Saron, Tycroes, Betws, Glanaman, Garnant a Cwarter Bach. Mae manylion ar gyfer gwneud cais i’r gronfa, yn cynnwys y meini prawf, ar gael yn:
http://www.carmarthenshire.gov.uk/

Mae rhagor o wybodaeth ar gael trwy anfon e-bost i grants@carmarthenshire.gov.uk neu drwy ffonio 01269 590216.

Yn Sir Castell-nedd Port Talbot, y wardiau yw Brynaman Isaf, Gwauncaegurwen, Pontardawe ac Alltwen.

Gallwch anfon cais am becyn i Gyngor Castell-nedd Port Talbot trwy anfon e-bost i: mynyddybetws@npt.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y gronfa cysylltwch â Rheolwr Datblygu ac Ariannu’r Prosiect ar 01639 763390.