Datblygwyd Fferm Wynt Mynydd y Betws yn wreiddiol gan Cambrian Renewable Energy Limited (CREL), consortiwm Cymreig o Eco2 a buddsoddwyr lleol, a rhoddwyd caniatâd i’r prosiect yn 2009 a’i werthu ym mis Mehefin 2010 i Fwrdd Cyflenwi Trydan cyfleustodau Iwerddon (ESB).
Mae ESB wedi ymrwymo i haneru ei allyriadau carbon erbyn 2022 a chyrraedd statws sero ar gyfer allyriadau carbon erbyn 2035. Bydd y rhan fwyaf o’r arbedion carbon yn dod o gynhyrchu gwynt ar y tir ac mae’r cwmni wedi datblygu portffolio helaeth o brosiectau ynni adnewyddadwy yn Iwerddon a’r DU, gan gynnwys Fferm Wynt Fullabrook yn Nyfnaint, a Fferm Wynt Gorllewin Durham yn Swydd Durham.
I gael rhagor o wybodaeth am ESB, ewch i wefan ein cwmni.